Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

 

Senedd and Elections (Wales) Bill

CLA(5) SE11

Ymateb gan Comisiynydd y Gymraeg

 

Evidence from Welsh Language Commissioner

1.            Diolch yn fawr i chi am y cyfle i ymateb i’r ymchwiliad hwn.  Mae’r sylwadau sydd gennym yn gysylltiedig â rhai blaenorol a wnaed gennym yn ymgynghoriad Senedd i Gymru yn 2018 ac ar newid enw’r Cynulliad yn 2017. 

 

2.            Enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru  

2.1       Nodir yn Rhan 2 (2(1); 2(2)) y Bil y gelwir “Senedd” ar Gynulliad Cymru ac y caniateir galw “Welsh Parliament” ar y Senedd hefyd. 

2.2       Eglurir ym Memorandwm Esboniadol y Bil (115) y bydd defnyddio “Welsh Parliament” ochr yn ochr â’r enw “Senedd” yn cynorthwyo’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â’r gair Cymraeg i ddeall ystyr yr enw. Nodir (121) y bydd canllawiau brandio’r Cynulliad yn adlewyrchu’r lle blaenaf a roddir i’r enw “Senedd” gan ddefnyddio “Welsh Parliament” i ddisgrifio ystyr y term yn Saesneg. Ar yr un pryd, nodir y defnyddir y term “Senedd” yn eang ar hyn o bryd a’i fod yn enw sydd eisoes yn gyfarwydd yng Nghymru (903). 

2.3       Yn ymateb y Comisiynydd i’r ymgynghoriad ar newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 1 Mawrth 2017 nodwyd nad oedd angen creu ffurf Saesneg ar yr enw. Nodwyd yr arfer a sefydlwyd eisoes o ddefnyddio enwau Cymraeg yn unig mewn rhai agweddau ar fyd gwleidyddiaeth Cymru. Cyfeiriwyd at fanteision defnyddio un ffurf Gymraeg yn enw i’r Cynulliad, gan gynnwys codi statws y Gymraeg.

 

  Cydnabyddir y pwyntiau uchod ym Memorandwm Esboniadol y Bil (904, 906, 909 a 288).

2.4       Nodir yn Rhan 2 (3-8) y Bil y bydd y gair “Senedd” yn hytrach na “Parliament” yn elfen o nifer o deitlau newydd a ddaw yn sgil newid enw’r Cynulliad, gan gynnwys “Acts of the Senedd” a “Members of the Senedd”. Gan dderbyn y bydd y teitlau hyn yn ddealladwy i’r cyhoedd pan ddaw’r newid i rym, yn enwedig gan fod y term “Senedd” eisoes yn gyfarwydd, awgrymaf y bydd yr un peth yn wir am enw’r sefydliad ei hun, pe defnyddid y teitl “Senedd” yn unig. Byddai’r ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus arfaethedig y cyfeirir atynt yn y Memorandwm Esboniadol (123) yn hybu’r ddealltwriaeth honno. 

2.5      Fe’ch anogaf, felly, i ddefnyddio’r Bil i bennu enw uniaith Gymraeg sef “Senedd” gan hepgor y cynnig i ddefnyddio enw amgen Welsh Parliament yn ogystal.

3.            Etholiadau

3.1       Yng nghyd-destun y newidiadau etholiadol a drafodir yn y Bil, hoffwn dynnu eich sylw at bryderon a godwyd yn ymateb y Comisiynydd i ymgynghoriad y Cynulliad Cenedlaethol ar Greu Senedd i Gymru ar 4 Mawrth 2018. Cyfeiriwyd at adroddiadau ar y modd yr ymdriniwyd â’r Gymraeg yn ystod gweithrediad etholiadau yn 2015 a 2016 gan nodi nad oedd profiad siaradwyr Cymraeg yn gyfartal â phrofiad siaradwyr di-Gymraeg.[1] Gwnaed argymhellion i’r Comisiwn Etholiadol ynghylch pwysleisio’r angen i sicrhau na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Gwnaed argymhellion i’r Swyddogion Cofrestru Etholiadol a’r Swyddogion Cofrestru ac i’r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â’r canllawiau a ddarperir i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a/neu Swyddogion Canlyniadau. Nid ydynt hwy yn ddarostyngedig i ddyletswyddau ieithyddol statudol. 

3.2       Wrth ymateb ar 2 Hydref 2017 i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru, eglurodd y Comisiynydd bod awdurdodau lleol bellach yn gyfrifol am weithredu safonau darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn Gymraeg yn unol â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Pe bai cyfrifoldeb y swyddog canlyniadau yn cael ei drosglwyddo i fod yn rhan o waith prif weithredwr statudol yn unol ag awgrym yr ymgynghoriad, tybiwyd y byddai’r gweithgareddau etholiadol hyn yn dod o dan gwmpas y safonau perthnasol. Os mai dyna fyddai’r achos mynegwyd yn ymateb y Comisiynydd y byddwn yn croesawu’r bwriad hwn i rôl y prif weithredwr statudol gynnwys rôl swyddog canlyniadau. Roedd yr ymgynghoriad mewn perthynas â gweinyddiad etholiadau Llywodraeth Leol yn benodol. Petai Llywodraeth Cymru yn penderfynu y dylai rôl prif weithredwr statudol gynnwys rôl swyddog canlyniadau etholiadau Llywodraeth Leol, byddwn yn annog yn gryf cysoni’r trefniadau ar gyfer etholiadau eraill yng Nghymru, gan gynnwys etholiadau’r Cynulliad. Buasem yn eich annog i gynnwys darpariaeth o’r fath yn y Bil hwn. 

3.3       Deallaf ei bod yn bosibl fod rhai o’r sylwadau uchod yn mynd y tu hwnt i gwmpas eich ymchwiliad. Er hynny, gofynnaf i’r Pwyllgor gadw mewn cof, wrth drafod etholiadau, bwysigrwydd sicrhau bod profiad siaradwyr Cymraeg o etholiadau a gynhelir yng Nghymru yn gyfartal â phrofiad siaradwyr di-Gymraeg.



[1] http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/Adroddiad%20Etholiad%20Cy mraeg.pdf; http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Cydymffurfio/Adroddiadau%20Etholiadau%20Comisiynyd d%20y%20Gymraeg/Pages/Etholiad-Cyffredinol-2015-Ffurflenni-pleidleisio,-gwybodaeth-gysylltiedig-achyhoeddi%E2%80%99r-canlyniadau-yn-Gymraeg.aspx